Tywydd y Gofod
Mae Tywydd y Gofod yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio aflonyddwch sy'n ymwneud ag amrywiadau yn yr haul, y gwynt, y magnetosffer a'r thermosffer. Gall tywydd y gofod effeithio ar berfformiad neu ddibynadwyedd amrywiaeth o systemau technolegol yn y gofod ac ar y tir a gall hefyd beryglu iechyd a diogelwch pobl.
Credir y gallai tywydd difrifol y gofod gael effaith ar amrywiaeth o dechnolegau ac isadeileddau, gan gynnwys rhwydweithiau pŵer, gwasanaethau lloeren, trafnidiaeth a chydrannau rheoli offer digidol. Perygl arall yw awyrennau'n cael eu dal mewn storm y tu allan i haenau amddiffynnol yr atmosffer oherwydd gallai hyn arwain at fod yn agored i ormod o ymbelydriad. Mae teithwyr awyrennau uchel mewn perygl o hyn - er ei fod yn ddogn isel, bydd awdurdodau hedfan yn defnyddio rhybuddion gan y Swyddfa Dywydd ac eraill i addasu llwybrau hedfan.
Mae monitro tywydd y gofod yn hanfodol er mwyn rhybuddio ymlaen llaw o ddigwyddiadau solar a allai gynhyrchu tywydd difrifol y gofod ar y ddaear.
Ar ôl i dywydd y gofod gael ei ychwanegu fel risg pwysig i'r Gofrestr Risg Genedlaethol, mae'r Swyddfa Dywydd wedi dechrau defnyddio data i ragfynegi digwyddiadau solar. Bydd ffagliadau solar a 'coronal mass ejections' (CMEs) bellach yn ffurfio rhan o ragfynegiad y Swyddfa Dywydd.
Peryglon Tywydd y Gofod
Mae nifer o beryglon a all ddod yn sgîl tywydd y gofod, ond y prif rai yw:
- Marwolaethau.
- Anafiadau / salwch.
- Aflonyddwch cymdeithasol.
- Niwed economaidd.
- Effaith seicolegol.