Seilwaith

Yn rhan o’r gymdeithas fodern, rydym yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan ein seilwaith. Yn y Deyrnas Unedig, mae ein seilwaith yn cynnwys gwasanaethau dŵr, trydan, nwy, olew/tanwydd, telathrebu, cludiant, bwyd, iechyd ac ariannol. Heb y gwasanaethau hyn, ni fyddai’r wlad yn gallu gweithredu o ddydd i ddydd gan fod sawl rhan o rwydwaith y seilwaith yn ddibynnol ar nifer o wasanaethau eraill. 

Gallai amharu ar y seilwaith achosi sgil-effeithiau trychinebus i’r wlad. Os ystyriwch pa mor rhwystredig ydyw pan fod y dŵr i ffwrdd am awr neu ddwy wrth i’r cwmni dŵr weithio ar y cyflenwadau yn eich ardal, meddyliwch am yr hyn a allai ddigwydd pe byddai’r dŵr yn eich ardal wedi’i lygru ac na fyddai’n ddiogel ei yfed. Beth pe na fyddai trydan? Ni fyddech yn gallu cwblhau tasgau megis troi’r golau ymlaen neu gymryd arian o beiriant arian i dalu am nwyddau. 

Paratoi ar gyfer Amhariad 

  • Dylech wybod lle mae’r pwyntiau terfyn ar gyfer eich cyfleustodau. Mewn achos brys, gallai fod yn angenrheidiol troi’r cyflenwad i ffwrdd i bob safle yn yr ardal yr effeithir arni.
  • Cadwch eich pecyn brys gartref.
  • Gallech gael rhybudd am ddiffoddiadau. Pe byddai hyn yn digwydd, sicrhewch eich bod yn gwybod sut i baratoi. Pe byddai’r dŵr yn cael ei droi i ffwrdd, er enghraifft, sicrhewch fod gennych ddŵr potel neu llenwch y bath â dŵr.
  • Cadwch lygad am alwyr amheus a ddaw i’ch drws sy’n honni i fod yn weithwyr cyfleustodau. Gwiriwch gardiau adnabod yr ymwelwyr cyn eu caniatáu i mewn i’ch cartref.

Colli Pŵer

Gall toriad pŵer yn eich cartref amharu’n fawr arnoch chi. Os collwch bŵer, mae cwpl o bethau y dylech eu gwneud yn syth:

  • Gwiriwch eich swits torri i weld os yw ymlaen; os nad ydyw, ceisiwch ei ailosod.
  • Gwiriwch a yw goleuadau’r stryd wedi’u diffodd ac a yw eich cymdogion wedi colli pŵer i weld ai’ch cyflenwad chi yn unig yr effeithiwyd arno.
  • Os na ellir adfer eich pŵer a bod eich cymdogion wedi colli pŵer hefyd, cysylltwch â’ch darparwr trydan a fydd yn gallu rhoi amcangyfrif i chi o’r amser y bydd yn ei gymryd i’ch cyflenwad pŵer gael ei adfer.

Os byddwch yn colli pŵer, mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd:

  • Cadwch ddrws eich rhewgell ar gau a dylai eich bwyd barhau wedi’i rewi am tua 12 awr.
  • Diffoddwch offer trydanol yn eich tŷ, megis eich teledu.
  • Gadewch un golau ymlaen er mwyn i chi wybod pan ddaw eich pŵer yn ôl.  
  • Sicrhewch eich bod wedi gwefru batris yn eich tŷ i bweru unrhyw offer trydanol a ddefnyddir i helpu cyflyrau meddygol.
  • Sicrhewch fod gennych dortsh weindio ar gael yn hwylus.