Stormydd

Gwyntoedd cryfion yw'r achos mwyaf cyffredin o ddifrod ac aflonyddwch yn y Deyrnas Unedig. Daw'r rhan fwyaf o'r hysbysiadau o ddifrod o anheddau domestig, lle mae cost gyfartalog y difrod bob blwyddyn yn o leiaf £300 miliwn. Pan geir stormydd, gallant arwain at lifogydd difrifol, gan achosi rhagor o ddifrod ac aflonyddwch. 

Paratoi ar gyfer Storm

  • Dylech glymu pethau fel ysgolion, dodrefn yr ardd neu unrhyw beth arall a allai gael ei chwythu i mewn i ffenestri a'u torri.
  • Dylech gau a diogelu unrhyw ddrysau a ffenestri ar y tŷ.
  • Parciwch gerbydau mewn garej, os oes un ar gael; fel arall, cadwch nhw'n glir o adeiladau, coed, waliau a ffensys.

Yn ystod y Storm

  • Arhoswch dan do cymaint â phosibl.
  • Os byddwch yn mynd allan, peidiwch â cherdded na chysgodi ger adeiladau a choed.
  • Cadwch yn glir o ochr gysgodol waliau a ffensys ffiniol. Os bydd y strwythurau hyn yn methu, byddant yn cwympo ar yr ochr hwn.
  • Peidiwch â mynd allan i atgyweirio difrod tra bod storm.
  • Os yw'n bosibl, ewch i mewn ac allan o'r tŷ drwy ddrysau ar yr ochr gysgodol.
  • Dim ond pan fo angen y dylech agor drysau mewnol, a chofiwch eu cau ar eich ôl.
  • Os oes rhaid i chi yrru, byddwch yn ofalus wrth yrru ar lwybrau agored fel pontydd, neu ffyrdd agored uchel. Dylech oedi eich taith neu ddod o hyd i lwybrau amgen os yn bosibl.
  • Arafwch a byddwch yn ymwybodol o wyntoedd ochr; dylid bod yn arbennig o ofalus os ydych yn tynnu cerbyd neu'n gerbyd ochr uchel.

Ar ôl y Storm

  • Peidiwch â chyffwrdd unrhyw geblau trydanol/ffôn sydd wedi'u chwythu i lawr neu sy'n hongian o hyd.
  • Peidiwch â cherdded yn rhy agos i waliau, adeiladau a choed oherwydd gallent fod wedi cael eu gwanhau.
  • Sicrhewch fod unrhyw gymydog neu berthynas sy'n agored i niwed yn ddiogel a helpwch hwy i wneud trefniadau ar gyfer unrhyw atgyweiriadau.