Damweiniau Trafnidiaeth Difrifol

Yn yr un modd ag y gall prinder tanwydd ac amhariadau ar y seilwaith economaidd effeithio ar fywyd o ddydd i ddydd, gall damweiniau trafnidiaeth difrifol gael yr un effaith. Mae’r mwyafrif o bobl yn dibynnu ar drafnidiaeth mewn rhyw ffordd yn ddyddiol. Mae damweiniau traffig yn digwydd ledled Cymru’n aml ac mae cynlluniau a gweithdrefnau sydd wedi’u hymarfer yn dda ar waith i ddelio â’r rhain ar lefelau lleol a rhanbarthol. Gall damweiniau trafnidiaeth difrifol roi straen enfawr ar y gwasanaethau brys.

Gall achosion trafnidiaeth brys ddigwydd o ganlyniad i ddamweiniau, ond gall tywydd difrifol megis eira neu lifogydd hefyd achosi problemau teithio. Gall problemau teithio yn sgil tywydd fod yn ddifrifol os caiff pobl eu trapio yn eu ceir wrth i’r tymheredd ddisgyn neu godi. 

Gall damweiniau trafnidiaeth ddigwydd ar nifer o lefelau a gallant achosi amhariadau ac oedi difrifol i unigolion a busnesau. Pe byddai digwyddiad, cynghorir y cyhoedd lle bo’n bosibl i gadw draw o’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ac i edrych ar yr wybodaeth ddiweddaraf gan ffynonellau cyfryngau lleol. 

Beth y gallwch chi ei wneud? 

  • Cadw pecyn brys gyda chi rhag ofn y cewch eich oedi.
  • Wrth yrru, dilynwch reolau’r ffordd, gan yrru’n ofalus, cadw at y cyfyngiadau cyflymder a pheidio â defnyddio eich ffôn.
  • Sicrhewch y cedwir eich car yn addas i’r ffordd fawr ac mewn cyflwr diogel.
  • Yn ystod tywydd difrifol, osgowch deithio os nad yw’n hanfodol.   

Peryglon y Rhwydwaith Trafnidiaeth  

Y prif beryglon a wynebir gan y rhwydwaith trafnidiaeth yw tywydd difrifol, llifogydd, dim pŵer, llai o gyflenwadau tanwydd a lludw folcanig. I gynnal gwasanaethau hanfodol, mae gweithredwyr cludiant:

  • Yn cadw cyflenwadau stoc brys.
  • Wedi addasu dull aml-asiantaeth ar gyfer cynllunio.
  • Wedi cael cyngor arbenigol.
  • Wedi buddsoddi mewn datrysiadau technegol.

Oedi yn Nhwneli Brynglas

Mae Twneli Brynglas, a agorwyd ym mis Mai 1967, yn parhau’n dagfa ar y draffordd. Yn rhannol oherwydd tagfeydd rheolaidd yn y twneli, mae cyfyngiad cyflymder amrywiol ar waith rhwng cyffyrdd 24 a 28. Mae cynlluniau ar waith pe byddai digwyddiad yn y twneli, ond byddai unrhyw ddigwyddiad yn achosi aflonyddwch difrifol yn yr ardal.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio yng Nghymru ar gael gan Traffig Cymru.