Tywydd Oer

Gall tywydd oer fod yn beryglus i lawer, felly yn ystod misoedd y gaeaf mae'n bwysig cadw'n gynnes a bod yn barod ar gyfer unrhyw beth.

Paratoi ar gyfer y Gaeaf

  • Cadwch yn gynnes drwy gadw eich cartref ar dymheredd cyfforddus.
  • Sicrhewch eich bod yn gofalu amdanoch eich hun a galwch heibio i gymdogion neu berthnasau i sicrhau eu bod yn ddiogel, yn gynnes ac yn iach.
  • I gadw'n gynnes, gwisgwch haenau o ddillad a gwisgwch esgidiau gyda gafael da os bydd angen i chi fynd tu allan.
  • Ceisiwch sicrhau eich bod yn cael prydau a diodydd poeth yn rheolaidd yn ystod y dydd a chadwch yn actif yn y cartref os gallwch wneud hynny.

Clirio Eira 

Er mwyn gwneud pethau'n fwy diogel, mae bob amser yn syniad da clirio eira. Mae clirio llwybrau o rew ac eira y math o gam ymarferol y gall y rhan fwyaf ohonom ei gymryd yn ystod y tywydd oer. Gall helpu eraill gyda hyn wneud byd o wahaniaeth i bobl na allant glirio eu llwybrau eu hunain, neu sydd angen defnyddio llwybrau lleol i ddefnyddio gwasanaethau.

  • Mae'n haws symud eira ffres, rhydd nac eira caled sydd wedi'i gywasgu ar ôl i bobl gerdded arno, felly symudwch eira cyn gynted â phosibl.
  • Peidiwch â defnyddio dŵr poeth oherwydd gall ail-rewi gan wneud pethau'n fwy peryglus.
  • Taenwch halen bwrdd neu halen y peiriant golchi llestri yn gynnil - gall cyn lleied â llond llwy de drin cymaint â metr sgwâr o rew.
  • Gellir defnyddio tywod, gro neu ludw ond ni fydd yn toddi eira na rhew, yn syml bydd yn rhoi mwy o afael.
  • Wrth glirio eira, dylech ystyried lle caiff ei adael fel nad yw'n achosi mwy o broblemau o ran mynediad. Gall pentyrru eira dros gwteri neu ddraeniau stopio eira sy'n toddi rhag draenio i ffwrdd sy'n golygu y bydd yn ail-rewi.

Gyrru mewn Tywydd Oer 

Wrth yrru mewn eira a rhew, dylech addasu eich gyrru i'r amodau gan fod eich pellter stopio yn cynyddu'n sylweddol. Ni ellir gweld rhew du ac mae'n broblem fawr oherwydd gall fod yn beryglus iawn i fodurwyr a cherddwyr. Wrth yrru, defnyddiwch gêr uwch na'r arfer er mwyn osgoi troi'r olwynion. Symudwch yn araf a cheisiwch osgoi brecio a chyflymu'n sydyn. Os byddwch yn dechrau llithro, tynnwch eich troed oddi ar y sbardun yn araf a pheidiwch â brecio. Os bydd angen brecio, pwmpiwch y breciau'n araf, peidiwch â rhoi eich troed lawr yn gyflym.

Os yw eich taith yn hanfodol, sicrhewch fod eich cerbyd yn barod ar gyfer y gaeaf, gyda digon o olew, dŵr a thanwydd, a bod gennych eich pecyn argyfwng y gaeaf wrth law. Cyn i chi yrru, sicrhewch eich bod wedi tynnu'r holl eira o dop eich car ac wedi clirio eich plât rhif a'ch drychau. 

Yn ystod cyfnod hir o dywydd gaeafol, gall isadeiledd trafnidiaeth gael ei effeithio'n fawr gyda chronfeydd halen isel. Gall y galw am halen fod yn fwy nag y gall cwmnïau cynhyrchu halen ei gyflenwi, a all achosi aflonyddwch i wasanaethau cyhoeddus, y sector preifat ac economi cyffredinol Cymru.