Tywydd Poeth

Er bod gan Gymru hinsawdd gymedrol gyda thymereddau fel arfer ddim yn mynd yn rhy boeth nac yn rhy oer, mae'n bosib cael tywydd poeth iawn. Er y bydd y rhan fwyaf ohonom yn mwynhau'r haul, mae'n bwysig cofio y gall tywydd poeth iawn achosi problemau iechyd; gall tymheredd uchel adael rhai pobl yn agored i niwed. Gall y grwpiau hyn gynnwys pobl hŷn, babis a phlant bach a phobl sydd â chyflyrau meddygol. Gall gormod o haul fod yn beryglus, gyda'r effeithiau'n amrywio o losg haul ysgafn i ganser y croen. Mae'r Swyddfa Dywydd yn dosbarthu tywydd poeth yn dymheredd sy'n uwch na 32°C.

Ymhlith y prif beryglon o dywydd poeth mae:

  • Dadhydradu (dim digon o ddŵr).
  • Gall bod yn rhy boeth wneud symptomau'n waeth i bobl sydd eisoes â phroblemau gyda'u calon neu anadlu.
  • Blinder gwres.
  • Trawiad gwres

Gall tywydd poeth hefyd gael effaith ar eich amgylchedd gyda:

  • Mwy o gerbydau'n torri i lawr oherwydd injans yn gorboethi.
  • Aflonyddwch i deithio a logisteg oherwydd arwynebau ffyrdd yn cael eu difetha.
  • Gallai sychder fod yn rhywbeth rheolaidd; maent yn amrywio yn eu dwyster a'u cyfnod ledled y wlad.
  • Prinder dŵr a allai arwain at wahardd pibelli dŵr ac ati.
  • Arwynebau ffyrdd yn cael eu difetha wrth i'r tarmac ddechrau toddi.

Cadw'n Oer

Er mwyn bod yn ddiogel yn ystod tywydd poeth, fe'ch cynghorir i gadw eich hun a'ch amgylchedd mor oer â phosibl:

  • Cadwch allan o'r haul rhwng 11am a 3pm.
  • Os bydd yn rhaid i chi fynd allan yn y gwres, rhowch eli haul ymlaen, SPF 15 neu uwch, gwisgwch het a cherddwch yn y cysgod.
  • Dylech osgoi gwneud gormod.
  • Gwisgwch ddillad ysgafn a llac sydd wedi'u gwneud o gotwm
  • Dylech yfed digon o ddiodydd oer ac osgoi gormod o alcohol, caffein a diodydd poeth.
  • Dylech fwyta bwyd oer, yn arbennig saladau a ffrwythau sydd â llawer o ddŵr ynddynt.

Yn Ystod Tywydd Poeth

  • Os na fyddwch yn teimlo'n iawn, dylech orffwys yn rhywle oer ac yfed digon o hylif.
  • Os bydd symptomau fel diffyg anadl, poen yn y fron, dryswch, gwendid, pendro neu grampiau'n gwaethygu neu ddim yn dod i ben, dylech fynd at y meddyg.

Pan fyddwch yn gadael y tŷ, sicrhewch eich bod yn barod i ddiogelu eich hun rhag yr haul; p'un a yw hynny wrth gerdded ynddo, neu'n gwneud taith fer neu hir. Os oes gennych chi anifeiliaid anwes gyda chi mewn tywydd poeth, sicrhewch na chânt eu gadael ar eu pen eu hunain yn y car, oherwydd bydd y car yn mynd yn eithriadol o boeth.

Rhwng 1af Mehefin a 15fed Medi, bydd y Swyddfa Dywydd yn gweithredu system Gwarchod Gwres-Iechyd yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn gall y Swyddfa Dywydd ragweld tywydd poeth iawn, fel y diffinnir gan dymereddau yn ystod y dydd a chyda'r nos a pha mor hir y bydd yn para. Mae'r system yn gweithio ar bedair lefel:

  • Lefel 1 Ymwybodol.
  • Lefel 2 Gwyliadwrus.
  • Lefel 3 Tywydd Poeth.
  • Lefel 4 Argyfwng.