Stormydd
Gwyntoedd cryfion yw'r achos mwyaf cyffredin o ddifrod ac aflonyddwch yn y Deyrnas Unedig. Daw'r rhan fwyaf o'r hysbysiadau o ddifrod o anheddau domestig, lle mae cost gyfartalog y difrod bob blwyddyn yn o leiaf £300 miliwn. Pan geir stormydd, gallant arwain at lifogydd difrifol, gan achosi rhagor o ddifrod ac aflonyddwch.
Paratoi ar gyfer Storm
- Dylech glymu pethau fel ysgolion, dodrefn yr ardd neu unrhyw beth arall a allai gael ei chwythu i mewn i ffenestri a'u torri.
- Dylech gau a diogelu unrhyw ddrysau a ffenestri ar y tŷ.
- Parciwch gerbydau mewn garej, os oes un ar gael; fel arall, cadwch nhw'n glir o adeiladau, coed, waliau a ffensys.
Yn ystod y Storm
- Arhoswch dan do cymaint â phosibl.
- Os byddwch yn mynd allan, peidiwch â cherdded na chysgodi ger adeiladau a choed.
- Cadwch yn glir o ochr gysgodol waliau a ffensys ffiniol. Os bydd y strwythurau hyn yn methu, byddant yn cwympo ar yr ochr hwn.
- Peidiwch â mynd allan i atgyweirio difrod tra bod storm.
- Os yw'n bosibl, ewch i mewn ac allan o'r tŷ drwy ddrysau ar yr ochr gysgodol.
- Dim ond pan fo angen y dylech agor drysau mewnol, a chofiwch eu cau ar eich ôl.
- Os oes rhaid i chi yrru, byddwch yn ofalus wrth yrru ar lwybrau agored fel pontydd, neu ffyrdd agored uchel. Dylech oedi eich taith neu ddod o hyd i lwybrau amgen os yn bosibl.
- Arafwch a byddwch yn ymwybodol o wyntoedd ochr; dylid bod yn arbennig o ofalus os ydych yn tynnu cerbyd neu'n gerbyd ochr uchel.
Ar ôl y Storm
- Peidiwch â chyffwrdd unrhyw geblau trydanol/ffôn sydd wedi'u chwythu i lawr neu sy'n hongian o hyd.
- Peidiwch â cherdded yn rhy agos i waliau, adeiladau a choed oherwydd gallent fod wedi cael eu gwanhau.
- Sicrhewch fod unrhyw gymydog neu berthynas sy'n agored i niwed yn ddiogel a helpwch hwy i wneud trefniadau ar gyfer unrhyw atgyweiriadau.