Tywydd Difrifol
Ystyr tywydd difrifol yw unrhyw agwedd ar dywydd sy'n peri risg i fywyd neu eiddo. Gall fod yn anodd ei ragfynegi a gall fod ar sawl ffurf wahanol, gan gynnwys tymereddau isel ac eira trwm, stormydd a gwyntoedd cryfion, tywydd poeth, glaw trwm a llifogydd. Gall tywydd difrifol achosi aflonyddwch sylweddol i arferion dyddiol, drwy darfu ar wasanaethau cyhoeddus, y sector preifat ac economi Cymru. Mae'n bwysig bod yn barod ar gyfer popeth pan ddaw i dywydd a chael cynllun a phecyn argyfwng yn barod.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf fel y gallwch fod yn barod ar gyfer unrhyw dywydd difrifol sydd ar ddod. Drwy eu Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Rhybuddio am Dywydd Difrifol, maent yn rhybuddio'r cyhoedd ac ymatebwyr brys o dywydd difrifol neu beryglus sydd â'r potensial i achosi perygl i fywyd neu aflonyddwch eang.
Effeithiau Tywydd Difrifol
- Effeithio ar allu asiantaethau statudol i ymateb i ddigwyddiadau.
- Staff yn teithio i'r gwaith.
- Ysgolion yn cau.
- Aflonyddwch i isadeiledd trafnidiaeth.
- Prinder pŵer a dŵr.
- Mwy o geir yn torri lawr.
- Llifogydd.
- Gwyntoedd cryfion yn symud gweddillion.
- Cynnydd mewn trawma a faint o bobl sy'n mynd i'r ysbyty.
- Mwy o fygythiad o anaf neu farwolaeth mewn perthynas â phobl sy'n agored i niwed.
- Prinder bwyd a thanwydd posibl.
Sicrhewch eich bod yn barod pan fyddwch yn teithio pan fo tywydd difrifol, neu pan ragwelir tywydd difrifol.