Llifogydd Cronfeydd
Mae tua 2100 o gronfeydd sy'n cynnwys dros 25,000 o fetrau ciwbig (tua 5 miliwn o alwyni) yr un uwchben lefel naturiol y tir yng Nghymru a Lloegr.
Mae unrhyw gronfa (uwchben lefel y tir) sy'n cynnwys dros 25,000 metr ciwbig yn cyfrif o dan Ddeddf Cronfeydd 1975. Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod perchenogion cronfeydd yn cynnal yr archwiliadau angenrheidiol ac yn eu hatgyweirio'n rheolaidd. Gallai llifogydd cronfeydd fod yn wahanol iawn i fathau eraill o lifogydd. Gallai ddigwydd gydag ychydig neu ddim rhybudd ac efallai y byddai angen i chi adael ar unwaith.
Gallai llifogydd cronfeydd fod yn debyg i lifogydd afon neu ddŵr arwyneb os bydd dŵr yn dianc yn araf, ond yn yr achos annhebygol y bydd methiant trychinebus i wal yr argae, yna gallai llawer iawn o ddŵr ddianc ar unwaith. Bydd gan berchenogion neu weithredwyr cronfeydd gynlluniau argyfwng ar y safle ar waith pe byddai llifogydd.
Ledled y wlad, mae'r tebygolrwydd o fethiant argae yn isel iawn. Nid oes methiant argae yn achosi i rywun golli ei fywyd wedi digwydd ers yr 1920au. Fodd bynnag, mae methiannau argaeau a llifogydd wedi digwydd yn fwy diweddar na hyn.
Os ydych yn gwybod bod eich eiddo mewn ardal a allai orlifo, dylech brynu offer diogelu a pharatoi eich eiddo ymlaen llaw i leihau'r risg o ddŵr llifogydd yn mynd i mewn. Tynnwch offer diogelu rhag llifogydd unwaith fo'r dŵr wedi mynd er mwyn helpu i sychu eich eiddo.
Ffoniwch Linell Gymorth Digwyddiadau Asiantaeth yr Amgylchedd ar 0800 80 70 60 os byddwch yn canfod diffyg amlwg mewn cronfa.
Byddwch yn Ddiogel
- Cadwch eich hun ac eraill yn glir o berygl. Symudwch o'r gronfa, gan gadw at dir uchel, os gallwch wneud hynny'n ddiogel.
- Sicrhewch fod rhywun wedi ffonio 999 os oes pobl wedi'u hanafu neu os oes perygl i fywyd.
- Peidiwch â cherdded na gyrru drwy ddŵr llifogydd.
- Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys yn yr ardal.
- Ceisiwch beidio â chyffroi, meddyliwch cyn gweithredu a cheisiwch dawelu meddwl eraill.
Os ydych yn poeni am y perygl o lifogydd cronfa, ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd lle ceir eu map o berygl llifogydd cronfeydd.