Digwyddiadau Diwydiannol
Mae gan weithgareddau diwydiannol sy’n ymwneud â sylweddau peryglus y potensial i achosi damweiniau. Mae’r rhain yn cynnwys tanau, ffrwydradau neu ddigwyddiadau lle rhyddheir sylweddau peryglus. Gallai rhai o’r damweiniau hyn achosi anafiadau difrifol i neu niweidio’r amgylchedd. Mae digwyddiadau ar raddfa fawr yn brin, ond gallant ddigwydd ar safleoedd yn amrywio o ffatrïoedd petrocemegol mawr i warysau storio cemegau. Os ydych yn byw’n agos at safle peryglus, cewch wybodaeth yn rheolaidd gan y diwydiannau yn eich ardal yn eich atgoffa i wneud y canlynol pe bai digwyddiad ‒ ‘Ewch i mewn. Arhoswch i mewn a Thiwniwch i mewn’.
Caiff y rhan fwyaf o safleoedd eu rheoleiddio o dan reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH), a chanddynt y bwriad o atal damweiniau mawr sy’n ymwneud â sylweddau peryglus a chyfyngu ar yr effeithiau ar bobl a’r amgylchedd. Mae’n ofynnol i’r safleoedd hyn gael cynllun i ymateb i ddamwain fawr sy’n effeithio ar y safle ac i leihau’r effaith ar y gymuned gyfagos.
Gorfodir Rheoliadau COMAH gan gorff o’r enw Awdurdod Cymwys COMAH. Mae’r Awdurdod Cymwys yn uno tri chorff llywodraethol unigol, mae’n cynnwys: Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ac Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru a Lloegr, a’r HSE ac Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yn yr Alban (SEPA).
Eu prif nod yw atal a lleihau effeithiau’r digwyddiadau mawr hynny sy’n ymwneud â sylweddau peryglus, megis clorin, nwy petroliwm hylifol, ffrwydron a phentocsid arsenig sy’n gallu achosi difrod difrifol, niwed i bobl ac i’r amgylchedd.
Pe Byddai Digwyddiad
Os byddwch yn clywed seiren rhybudd neu gyhoeddiad radio, ewch i dŷ neu adeilad yn syth a gwnewch y canlynol;
- Caewch bob drws allanol, trowch i ffwrdd pob system awyru a gwres canolog.
- Caewch bob ffenestr a’r llenni.
- Arhoswch mewn ystafell sydd bellaf o’r ardal ddiwydiannol, i fyny’r grisiau os oes modd.
- Gwrandewch ar eich gorsaf radio leol i gael gwybodaeth a chyfarwyddiadau.
- Peidiwch â ffonio’r gwasanaethau brys oni bai fod gennych achos brys a bod arnoch angen help.
- Arhoswch y tu mewn tan i chi glywed y neges bod popeth yn iawn (un ai ar y radio neu un caniad hir ar y seiren) neu y cewch gyfarwyddiadau gan y gwasanaethau brys.
Ar ôl Gwacáu
Os yw digwyddiad diwydiannol yn ddifrifol iawn, mae perygl y gallai fod angen i chi adael eich cartref. Os oes rhaid i chi adael, ewch â’ch Pecyn Teithio ar gyfer Argyfwng gyda chi a dilynwch gyfarwyddiadau’r gwasanaethau brys.
Pan fyddwch yn dychwelyd i’ch cartref, cofiwch y canlynol;
- Peidiwch â bwyta unrhyw fwyd a adwyd heb ei orchuddio.
- Peidiwch â bwyta unrhyw lysiau o’r ardd tan i chi eu glanhau a’u plicio’n drwyadl.
- Os gadawyd unrhyw olch y tu allan ar y lein ddillad, sicrhewch eich bod yn eu golchi eto.
- Agorwch bob ffenestr a drws i awyru eich cartref yn drwyadl am gymaint o amser â phosibl, am nifer o oriau os oes modd.
- Glanhewch bob arwyneb yn eich cartref yn drwyadl.