Cofrestr Risg Cymunedol
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi Cofrestr Risg Cenedlaethol, gan gyflawni ymrwymiad a wnaed yn y Strategaeth Diogelwch Cenedlaethol.
Mae angen i ni fod yn barod ac yn gallu delio gydag argyfyngau posibl a digwyddiadau aflonyddol; gall y rhain amrywio o drychinebau naturiol fel llifogydd neu eira trwm i weithrediadau neu ymosodiadau bwriadol. Gall argyfyngau ddigwydd mwyaf sydyn (e.e. ffrwydrad mewn ffatri gemegol) neu ddatblygu'n raddol (e.e. epidemig y ffliw neu weithredu diwydiannol eang).
Dylai'r broses o gynllunio at argyfwng geisio, pan fo'n bosibl, atal argyfyngau rhag digwydd, ac os byddant yn digwydd, dylai gwaith cynllunio da leihau, rheoli neu liniaru effeithiau'r argyfwng.
Mae gwaith y Llywodraeth yn seiliedig ar bedwar cam gweithredu allweddol:
- Asesiad risg.
- Paratoi a threfnu.
- Ymateb.
- Adfer.
Cofrestr Risg Cymunedol Gwent
Mae'n rhaid i bob Fforwm Cydnerth Lleol gyhoeddi ei Gofrestr Risg Cymunedol ei hun ble mae'n asesu'r tebygolrwydd o risgiau a pheryglon yn codi yn yr ardal - yn ein hachos ni, yr ardal a gwmpesir gan Heddlu Gwent. Mae Fforwm Cydnerth Lleol Gwent yn dadansoddi'r risgiau a allai effeithio ar Gwent ac yn sicrhau bod cynlluniau ar waith os bydd argyfwng yn digwydd.
Ni fydd yr asesiadau risg a geir yn y gofrestr ond yn cwmpasu digwyddiadau anfaleisus (h.y. peryglon) yn hytrach na bygythiadau (h.y. achosion terfysgwyr). Nid yw hyn yn golygu nad ydym yn ystyried bygythiadau o fewn ein gwaith asesu risgiau, ond oherwydd sensitifrwydd y wybodaeth sy'n cefnogi'r asesiadau risg hyn a'r potensial iddynt gael eu defnyddio gan wrthwynebwyr, ni fydd manylion penodol ar gael drwy'r wefan hon.
Gellir lawrlwytho Cofrestr Risgiau Cymunedol Fforwm Cydnerth Lleol Gwent i'w weld.