Adran y Plant
Er na allwch baratoi eich plant ar gyfer pob peth bach yn y byd, gallwch helpu i'w haddysgu a'u paratoi ar gyfer y dyfodol drwy eu haddysgu'n ifanc. Anelir yr adran hon o Paratoi Gwent at addysgu plant mewn ffordd ddifyr, a fydd yna'n arwain atynt yn dysgu am y risgiau a wynebir yng Ngwent fel eu bod yn gwybod sut i ddelio ag argyfwng a sut i fod yn ddiogel. Mae Burt yma i arwain y plant a'u helpu i ddeall y risgiau y gallent eu hwynebu.
Rydym wedi cynnwys gweithgareddau gwahanol fel chwileiriau iddynt ddysgu wrth gael hwyl, yn ogystal â dolenni i wefannau sy'n addas i blant lle gallant ddysgu hyd yn oed mwy.
Cynnwys Eich Plentyn
Y ffordd orau o gynnwys eich plentyn yw gwneud iddynt fod â diddordeb mewn dysgu gyda gweithgareddau a gemau. Gallai hyn fod ar ffurf cael eich plentyn i gynllunio pecyn goroesi o'u hoff eitemau. Gallai hyn fod naill ai ar ffurf bag a gedwir yn ddiogel o dan y gwely er enghraifft, neu gallech gael blwch diwrnod glawog a gedwir yn llawn gweithgareddau y gellir eu gwneud dan do os bydd yn rhaid i chi aros yn y tŷ, neu weithgareddau y gallwch fynd gyda chi os cewch eich gorfodi o'ch cartref.
Gallai pecyn y plant gynnwys eitemau fel:
- Llyfrau.
- Creonau, pensiliau a phapur.
- Doliau.
- Pecyn o gardiau.
- Gemau bwrdd / posau.
- Tegan meddal.
Gallech hefyd ennyn diddordeb eich plentyn drwy ofyn iddynt eich helpu i greu eich pecyn argyfwng y cartref fel eu bod yn teimlo'n rhan o'r gwaith o gynllunio ar gyfer argyfwng y cartref.
Dysgu gyda Gemau
Gweithgareddau difyr i grwpiau oedran gwahanol.
Chwileiriau.
Lliwio
Torri Allan
Hwyl ar y We
Mae ein ffrindiau yng Nghyngor Sir Essex a'r ymatebwyr brys yn yr ardal wedi creu'r wefan 'What If...?' sy'n adnodd defnyddiol a difyr ar gyfer addysgu plant gyda'r cymeriadau Ben a Molly, drwy gemau, llyfrau a phosau, sy'n dangos y cymeriadau'n dysgu am risgiau fel llifogydd ac yn dysgu beth i'w roi mewn pecyn argyfwng a beth i'w wneud os ceir llifogydd.
Dyma fwy o wefannau difyr rydym ni yn Paratoi Gwent yn eu hoffi ar gyfer dysgu. Maent yn wefannau gwych i ddysgu mwy am y risgiau y gallwn eu hwynebu: