Diogelu Eich Cartref
Er mwyn diogelu eich cartref, mae camau y gallwch eu cymryd i sicrhau eich bod yn cadw eich teulu, eich eiddo a'ch tŷ yn ddiogel rhag pethau a allai ddigwydd os na fyddwch yn cadw eich hun yn ddiogel. Gall bod yn ymwybodol o'ch amgylchiadau a bod yn ofalus wneud gwahaniaeth enfawr pe byddai rhywbeth yn digwydd yn eich cartref. Dilynwch y cyngor canlynol fel canllaw:
- Gosodwch larymau mwg ar bob lefel yn eich cartref. Cadwch hwy'n rhydd o lwch a phrofwch nhw unwaith yr wythnos; cofiwch 'Test It Tuesday' i'ch atgoffa bob wythnos, yn union fel y byddech yn cofio rhoi eich bin allan bob wythnos. Dylech ystyried prynu larwm 10 mlynedd; neu fel arall newidiwch y batris yn eich larwm bob blwyddyn. Am ragor o gyngor ar larymau mwg, gweler Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru. Os ydych yn byw yng Nghymru, mae eich gwasanaeth tân ac achub lleol yn cynnig larwm mwg am ddim a gwasanaeth gosod i chi.
- Dylech ystyried gosod synhwyrydd carbon monocsid.
- Os bydd tân, mae'n rhaid i chi gael pawb allan o'r tŷ, felly cadwch yr allanfeydd o'ch cartref yn glir fel y gall pobl ddianc. Sicrhewch y gall pawb yn eich cartref ddod o hyd i allweddi drysau a ffenestri yn hawdd.
- Cymrwch fwy o ofal yn y gegin - mae damweiniau wrth goginio yn cyfrif am dros hanner y tannau mewn cartrefi. Peidiwch byth â gadael eich plant bach ar eu pen eu hunain yn y gegin.
- Peidiwch byth â gadael canhwyllau mewn ystafelloedd gwag neu mewn ystafelloedd lle mae plant ar eu pen eu hunain. Sicrhewch fod canhwyllau mewn dalwyr cadarn ar wyneb nad yw'n llosgi ac i ffwrdd o unrhyw ddeunyddiau a allai losgi.
- Sicrhewch y caiff sigarennau eu diffodd a'u gwaredu'n iawn, a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.
- Dewch i'r arfer â chau drysau gyda'r nos. Os ydych am gadw drws ystafell wely plentyn ar agor, caewch y drysau i'r lolfa a'r gegin - gallai helpu i achub ei fywyd pe byddai tân.
- Peidiwch â gorlwytho socedi trydanol. Cofiwch: un plwg ar gyfer un soced.
- Cadwch fatsis a thanwyr lle na all plant eu gweld na'u cyrraedd.
- Peidiwch â gadael y teledu nac offer trydanol eraill ar y modd segur oherwydd gallai hyn achosi tân. Dylech bob amser ei ddiffodd a thynnu'r plwg pan nad yw'n cael ei ddefnyddio.
- Cofrestrwch ar gyfer OWL, sy'n darparu'r negeseuon a'r rhybuddion diweddaraf am droseddau ynghyd ag adnoddau rheoli ar gyfer dechrau a chynnal cynlluniau.