Fy Nghartref
Mae llawer ohonom yn cynllunio ar gyfer argyfyngau mewn rhyw ffordd. Efallai y byddwn yn penderfynu rhoi allweddi sbâr y tŷ i gymydog, cario cerdyn rhoddwr neu hyd yn oed gadw blwch cymorth cyntaf, tra bod llawer o bobl yn cadw fflashlamp ger y blwch mesur trydan neu mewn rhywle defnyddiol arall rhag ofn i'r pŵer ddiffodd.
Mae bod yn barod ac yn gwybod sut i ddelio â sefyllfa anodd yn gyflym ac yn effeithiol yn bwysig pan fo argyfwng. Drwy gymryd rhai camau syml gallwch leihau effaith argyfwng ar eich teulu a'ch cartref. Nid oes angen unrhyw ddealltwriaeth arbenigol, dim ond ychydig funudau o'ch amser. Lluniwch Gynllun Argyfwng y Cartref; dylai hwn gynnwys:
Rhestr gyswllt Mewn Argyfwng o'r holl rifau ffôn pwysig, fel:
- Teulu.
- Ffrindiau a chymdogion.
- Ysgol eich plant.
- Eich meddyg teulu.
- Meddygfa'r milfeddyg.
- Eich cyflenwyr nwy, dŵr a thrydan.
- Eich Cyngor.
- Eich yswirwyr ac ati.
Dylech ystyried cael o leiaf un o'ch rhifau Mewn Argyfwng yn eich ffôn symudol neu'n eich waled neu bwrs. Ar eich ffôn, nodwch 'ICE', sef 'In Case of Emergency' wrth yr unigolyn sydd am fod yn gyswllt mewn argyfwng ar eich cyfer. Mae hyn yn golygu, os bydd angen, gall ymatebwyr brys gysylltu â phobl rydych yn eu hadnabod, ac o bosib cael gwybodaeth bwysig fel manylion meddygol, cyn gynted â phosibl.
Dylai eich cynllun hefyd gynnwys:
- Trefniadau o ran sut y bydd eich teulu yn cadw mewn cysylltiad os bydd argyfwng.
- Dylech baratoi Pecyn Argyfwng, gan gynnwys eitemau ychwanegol pe byddech yn cael gwybod mwyaf sydyn bod angen i chi adael eich cartref.
At hynny:
- Dylech fod yn gyfarwydd â sut i ddiffodd cyflenwadau nwy, trydan a dŵr i'ch cartref.
- Sicrhewch fod gennych yswiriant digonol.
Ewch Dan Do. Diffoddwch. Gwrandewch.
- Mewn argyfwng mawr, os nad ydych yn rhan o'r digwyddiad, ond eich bod gerllaw neu'n credu y gallech fod mewn perygl, y cyngor gorau i chi a'ch teulu yw mynd dan do, diffodd unrhyw offer aerdymheru neu awyru, ac aros dan do hyd nes y cewch wybod fel arall.
- Ewch i ystafell fewnol sydd ag ychydig o ffenestri os yw'n bosibl a rhowch y radio lleol neu'r teledu ymlaen am wybodaeth.
- Sicrhewch fod rhywun wedi ffonio 999 os oes pobl wedi'u hanafu neu os oes perygl i fywyd.
- Dylech bob amser wrando'n ofalus i'r cyngor a geir gan y gwasanaethau brys - a dilyn eu cyfarwyddiadau.
- Ceisiwch beidio â chyffroi, tawelwch feddwl eraill a pheidiwch â rhoi eich hun nac eraill mewn perygl.
- Dewch o hyd i falfiau diffodd y trydan, nwy a dŵr a sicrhewch eich bod yn cadw'r offer angenrheidiol gerllaw.
- Addysgwch aelodau'r teulu sut i ddiffodd y cyfleustodau.
Os bydd argyfwng mawr ac os bydd eich plant yn yr ysgol, byddwch yn naturiol am eu casglu cyn gynted â phosibl, ond efallai na fydd yn ddiogel gwneud hynny. Rhowch eich radio lleol ymlaen i gael cyngor a manylion y trefniadau y mae eich cyngor lleol wedi'u gwneud ar gyfer rhoi gwybod i rieni pryd y dylent gasglu eu plant o'r ysgol. Bydd gan rai ysgolion systemau ar waith i gysylltu â chi. Dylai ysgolion fod â threfniadau i ymdopi ag argyfyngau lleol a bydd athrawon a staff cymorth yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ofalu am y disgyblion maent yn gyfrifol amdanynt.