Cadw'n Ddiogel yn y Dwr
Pan fo'r haul yn tywynnu a'r tymheredd yn gynnes, gall fod yn ddeniadol oeri yn y ffynhonnell ddŵr agosaf. Ond mae'n rhaid atal eich hun gan nad yw'n ddiogel. Er y gall ymddangos fel syniad da ar y pryd, nid yw nofio mewn afonydd, nentydd, cronfeydd na phyllau chwareli yn ddiogel am na allwch weld beth sydd o dan y wyneb pan fyddwch yn sefyll uwchben y dŵr. Mae plymio i mewn i ddyfrffosydd yn swnio'n ddeniadol iawn ond gall arwain at anafiadau difrifol, a hyd yn oed marwolaeth.
Gall y mathau hyn o ddŵr fod yn beryglus iawn am na allwch weld pa mor ddwfn ydynt. Gallent fod â ffrydiau cryf dan y wyneb, tymheredd isel a rhwystrau na ellir eu gweld o dan y dŵr. Yn aml ceir strwythurau cudd fel rhagfuriau concrid wedi suddo neu wrthrychau fel trolïau siopa a beiciau sydd wedi'u dwyn yn aros i drapio'r diofal.
Gan nad yw'r dŵr mewn afonydd, llynnoedd a nentydd wedi'i drin gall gynnwys feirws leptospirosis a ledaenir gan wrin llygod mawr, sy'n mynd i mewn i'r corff drwy doriadau, crafiadau neu leinin y geg gan achosi Afiechyd Weil a gall fod yn farwol os na chaiff ei drin yn gynnar. Mae'n achosi poenau sy'n debyg i'r ffliw ychydig wythnosau ar ôl yr heintiad.
Peryglon Cudd
Gall y rhan fwyaf o bobl sy'n boddi mewn afonydd nofio, ond eu bod yn marw oherwydd sioc y dŵr oer sy'n eu parlysu dros dro. Efallai y credwch y bydd y tywydd cynnes yn codi tymheredd yr afon fel nad yw sioc y dŵr oer yn risg, ond nid yw tymheredd y dŵr yn codi llawer am ei bod yn llifo'n barhaus ac yn cael ei bwydo'n gyson gan ffynonellau tanddaearol.
Gall peryglon cudd achosi i chi dorri eich coes ac anafiadau eraill neu i nofiwr fynd yn sownd mewn rhywbeth gan ei dynnu o dan y dŵr.