Fforwm Cydnerth Lleol
Ni ellir cynllunio ar gyfer, ac ymateb i, argyfyngau mawr heb gymorth eraill. Wedi'u sefydlu fel gofyniad Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, y Fforymau Cydnerth Lleol yw'r prif ddull ar gyfer cydweithredu/cydgysylltu amlasiantaethol ac maent yn sicrhau y caiff y dyletswyddau hynny o dan y Ddeddf y mae angen eu datblygu mewn amgylchedd amlasiantaethol eu darparu'n effeithiol.
Gyda thrychinebau'n digwydd drwy'r amser, mae angen cael cynllun ar waith i ymateb i'r argyfyngau. Pan fo argyfwng yn digwydd, bydd sawl asiantaeth wahanol yn chwarae rhan yn y broses o ymateb i'r digwyddiad.
Drwy sicrhau bod asiantaethau partner yn cydweithio, gallwn helpu i:
- Atal y trychineb rhag gwaethygu.
- Achub bywydau.
- Lliniaru dioddefaint y rhai a effeithir gan y digwyddiad.
- Sicrhau normalrwydd cyn gynted â phosibl.
Fforwm Cydnerth Lleol Gwent (GLRF)
O fewn Gwent, y GLRF yw'r prif grŵp strategol. Yn cyfarfod yn chwarterol ac yn cael ei gadeirio gan y Prif Gwnstabl, mae'r grŵp yn rhan bwysig o drefniadau diogelwch sifil lleol Gwent.
Mae'r Grŵp yn cynnwys Uwch Swyddogion o:
- Heddlu Gwent (Prif Gwnstabl yn cadeirio'r grŵp)
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Cyngor Sir Fynwy
- Cyngor Sir Casnewydd
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
- Milwrol
- Llywodraeth Cymru
- Cyfleustodau
Er mwyn ei helpu i weithio, mae gan y GLRF Grŵp Cydgysylltu haen is. Mae gan y grŵp hwn aelodau o sefydliadau amlasiantaethol, swyddogion cynllunio at argyfwng sy'n unigolion profiadol hyfforddedig sydd â sgiliau ym maes cynllunio at argyfwng/cynllunio at argyfwng sifil.
At hynny, mae'r aelodau hyn yn cyfrannu at nifer o is-grwpiau sydd wedi'u sefydlu i ddatblygu galluoedd amrywiol neu bennu targedau penodol i atgyfnerthu cydnerth lleol drwy gydweithredu amlasiantaethol. Gall y grwpiau hyn hefyd alw ar ymarferwyr eraill cynllunio at argyfwng ac unigolion sydd ag arbenigedd.
Mae cynrychiolwyr o'r GLRF hefyd yn cynrychioli Gwent yn Fforwm Cymru Gydnerth (WRF) a gadeirir gan Brif Weinidog Llywodraeth Cymru.