Llygredd Arfordirol
Mae gan y Deyrnas Unedig dros 20,000 cilomedr o arfordir ac mae 25% o’n hanifeiliaid yn ein moroedd. Mae llygredd a sbwriel yn effeithio ar bawb a gallant achosi llawer o ddifrod i’r arfordir.
Mae’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau llygredd yn dechrau â llygru dŵr alltraeth. Gall llygryddion gael eu symud gan y gwynt a’r llanw tuag at y lan ac yn y pen draw, gallant lygru aberoedd ac ymylon traethau. Achos arall yw llygredd yn cyrraedd y môr trwy afonydd o ffynonellau ar y tir megis ffatrïoedd. Daw llygredd olew hefyd o lwyfannau olew a nwy alltraeth ac o longau.
Mae gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau gynlluniau y mae wedi hen arfer â nhw, sy’n cynnwys pob gwasanaeth brys perthnasol ar gyfer digwyddiadau llygredd mawr a bach. Mae hefyd gweithdrefnau ar gyfer delio â llongau sy’n cael damweiniau.
Delio â llygredd alltraeth yw tasg yr Awdurdod Lleol dan sylw a dylai ymateb trwy’r dull ymateb Haen a’u Cynlluniau Ymateb Gweithredol. Yr awdurdodau lleol morol sy’n gyfrifol am lanhau’r traethau ar hyd eu harfordiroedd.
Gall llygredd arfordirol effeithio ar nifer o bethau.
Adnoddau mewn Perygl
- Adnoddau amgylcheddol.
- Adar.
- Bywyd morol.
- Anifeiliaid morol.
- Planhigion morol.
Asedau Cymdeithasol ac Economaidd
- Twristiaeth.
- Defnydd morol.
Pe bai arfordir yn cael ei lygru;
- Osgowch ardaloedd wedi’u llygru a gwrandewch am gyngor a gwybodaeth ar orsafoedd radio lleol.
- Cydweithredwch â sefydliadau yn ystod unrhyw ymgyrch lanhau.
- Peidiwch â chwilota trwy unrhyw gargo a allai gael ei olchi i’r lan gan y gallai fod yn beryglus ac mae’n drosedd.