Gwenwyn Bwyd

 

Gwenwyn bwyd yw’r enw cyffredin a roddir ar heintiau gastroberffeddol yn bennaf a ddaw yn sgil bwyta bwyd neu ddiod wedi’u halogi gan facteria sy’n achosi clefydau, paraseitiaid neu firysau. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r bwyd sy’n achosi’r salwch wedi’i halogi gan facteria megis salmonela neu E. Coli neu firws megis norofeirws.   

Mae symptomau gwenwyn bwyd fel arfer yn dechrau rhwng un a thri diwrnod ar ôl bwyta’r bwyd wedi’i halogi, a gallant gynnwys;

  • Teimlo’n sâl.
  • Chwydu.
  • Dolur rhydd.
  • Poen yn y bol.

Y brif risg a geir gan wenwyn bwyd yw diffyg hylif, felly mae’n bwysig yfed digon i geisio osgoi hyn. 

Mae’r bwydydd sy’n arbennig o agored i gael eu halogi os na chânt eu trin, eu cadw neu’u coginio’n gywir yn cynnwys: 

  • Cig a dofednod amrwd.
  • Bwydydd 'parod i’w bwyta' megis cig wedi’i goginio a’i sleisio, pate, caws meddal a brechdanau parod.
  • Cynnyrch llaeth megis wyau a llaeth.

Achos o E. Coli

Ym mis Medi 2005 cafwyd yr achos mwyaf erioed o E. Coli O157 yng Nghymru a’r ail fwyaf yn y Deyrnas Unedig, lle cofnodwyd dros 150 o achosion.

Gallwch gael eich heintio trwy fwyta bwydydd wedi’u halogi, yn enwedig cig eidion mâl heb ei goginio’n ddigonol a llaeth. Cysylltwyd achosion ag iogwrt, cigoedd wedi’u coginio, pastai cig, caws, salami sych wedi’i halltu, llysiau amrwd, llysiau salad, sudd afal heb ei basteureiddio a dŵr.

Trin Gwenwyn Bwyd 

Nid oes angen triniaeth benodol ar y rhan fwyaf o gleifion a chanddynt wenwyn bwyd ac maent yn gwella’n iawn. Fodd bynnag, dylech gael cyngor meddygol os yw’r salwch yn para’n hirach na chwpl o ddiwrnodau neu os yw’r cyflwr cyffredinol yn gwaethygu.

Atal Gwenwyn Bwyd

Gellir atal nifer o achosion o wenwyn bwyd trwy gadw bwyd yn gywir (h.y. osgoi cadw cigoedd amrwd a chigoedd wedi’u coginio gyda’i gilydd yn yr oergell) a choginio bwyd yn ddigonol (h.y. cyrraedd tymereddau digonol i ladd bacteria) a gweithredu gweithdrefnau hylan ar gyfer delio â bwyd a’i baratoi.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wenwyn bwyd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.