Terfysgaeth
Os credwch fod rhywbeth o’i le, neu os ydych yn ansicr am ymddygiad neu weithgarwch rhywun, dylech ffonio’r Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth: 0800 789 321. Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael i bobl a chanddynt anawsterau clywed neu leferydd ar 0800 032 45 39, (ni dderbynnir negeseuon testun gan ffonau symudol). Gallwch ffonio’r rhif 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Caiff yr holl alwadau a gwybodaeth eu trin yn gwbl gyfrinachol.
Strategaeth Gwrthderfysgaeth (CONTEST)
Y Strategaeth Gwrthderfysgaeth, a elwir hefyd yn CONTEST, yw strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwrthsefyll terfysgaeth. Bwriad CONTEST yw lleihau’r risg i’r DU a’i gysylltiadau tramor o derfysgaeth er mwyn i bobl allu byw eu bywydau’n rhydd ac yn hyderus. Caiff ei rhannu’n bedair prif agwedd;
- Erlid – Stopio ymosodiadau terfysgol.
- Atal – Atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.
- Amddiffyn – Cryfhau ein hamddiffyniadau yn erbyn ymosodiadau terfysgol.
- Paratoi – Os nad oes modd stopio ymosodiad terfysgol, lleihau ei effaith.
Lefelau Bygythiad Terfysgaeth
Mae lefel y bygythiad yn nodi’r tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol yn y DU. Mae pum lefel o fygythiad:
- Isel – Nid yw ymosodiad yn debygol.
- Cymedrol – Mae ymosodiad yn bosibl, ond nid yw’n debygol.
- Sylweddol – Mae ymosodiad yn bosibilrwydd cryf.
- Difrifol – Mae ymosodiad yn debygol iawn.
- Enbyd – Disgwylir ymosodiad yn fuan.
Os ydych yn arbennig o bryderus am fygythiad ymosodiad terfysgol, cadwch lygad ar www.gov.uk/terrorism-national-emergency i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.