Prinder Tanwydd
Mae argaeledd tanwydd yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol yn wasanaeth dibynadwy. Er hyn, gwelwyd enghreifftiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf lle amharwyd am gyfnodau byr ar y cyflenwad yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan effeithio ar unigolion a busnesau.
Gall llawer o wahanol bethau amharu ar y cyflenwad tanwydd. Gallai hyn gynnwys prinder cyflenwad, problem dechnegol yn rhan o’r rhwydwaith tanwydd, gweithredu diwydiannol neu brotest gyhoeddus. Pe byddai prinder, gallai hyn effeithio ar wasanaethau brys a gwasanaethau sy’n hanfodol i’r cyhoedd. Dylai busnesau gynnwys prinderau tanwydd yn eu cynllun Rheoli Parhad Busnes gan y gallai amharu’n fawr ar unrhyw wasanaeth.
Paratowch ar gyfer Prinder Tanwydd
- Sicrhewch fod eich cerbyd yn addas i fod ar y ffordd ac y caiff ei gynnal a’i gadw’n dda i gael yr effeithlonrwydd tanwydd gorau posibl.
- Defnyddiwch eich cerbyd pan fo’n hanfodol yn unig.
- I arbed tanwydd, ystyriwch ddulliau cludiant eraill megis cerdded, beicio a rhannu ceir.
- Osgowch brynu mewn panig os cewch wybod am brinder tanwydd.
- Peidiwch â phrynu petrol i’w storio os oes prinder, gallai fod yn beryglus iawn. Mae’n beryglus cadw tanwydd fflamadwy iawn o gwmpas y tŷ, waeth pa mor fach yw’r cyfanswm neu ba mor ofalus y caiff ei storio.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am storio petrol, ewch i wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch lle cewch gyngor ar gadw’n ddiogel.