Diogelwch Seiber
Mae’r rhyngrwyd wedi dod yn ganolog i’n heconomi a’n cymdeithas. Dechreuwyd y rhyngrwyd yn 1991 ond erbyn heddiw mae o leiaf un rhan o dair o boblogaeth y byd yn defnyddio’r rhyngrwyd. Mae’r rhyngrwyd yn chwyldroi ein cymdeithas, yn trawsnewid busnesau ac yn eu gwneud yn fwy effeithlon ac effeithiol.
Fodd bynnag, mae ein dibyniaeth gynyddol ar y seiberofod nid yn unig yn dod â chyfleoedd newydd, ond hefyd bygythiadau newydd. Yn y Gofrestr Risg Genedlaethol, mae’r Llywodraeth yn nodi ymosodiadau seiber fel risg blaenoriaeth uchel. Seiberdroseddu yw un o’r meysydd trosedd sy’n tyfu gyflymaf a theimlir yr effeithiau yn ein heconomi, yn ein seilwaith cenedlaethol pwysig ac yn ein cymdeithas.
Cost Seiberdroseddu
Amcangyfrifir bod y farchnad sy’n ymwneud â'r rhyngrwyd yn y Deyrnas Unedig bellach werth £82 biliwn y flwyddyn. Cyfanswm cost seiberdroseddau i’r economi yw £27 biliwn y flwyddyn, gyda chyfanswm cost amcangyfrifiedig o £21 biliwn y flwyddyn i fusnesau, yn ôl adroddiad 2011 Swyddfa’r Cabinet, ‘The Cost of Cybercrime’.
Mae diogelwch seiber yn bwysig nid yn unig i fusnesau, ond hefyd i unigolion gan fod ein bywydau ni yn dueddol o fod ar-lein y dyddiau hyn. Diben diogelwch seiber yw amddiffyn eich offer cyfrifiadurol a gwybodaeth rhag i rywun gael mynediad iddynt, eu newid neu eu dinistrio’n anfwriadol neu’n anawdurdodedig.
Mae seiberdroseddau’n perthyn i ddau gategori:
- Ymosodiadau ar ddata cyfrinachol neu sensitif.
- Ymosodiadau ar seilwaith.
I ddiogelu rhag ymosodiadau, mae The Centre for the Protection of National Infrastructure yn argymell ystyried y cwestiynau canlynol:
- Pwy fyddai’n dymuno cael mynediad i’ch gwybodaeth a sut y gallent ei chael?
- Sut y gallent elwa ar ei defnyddio?
- A allant ei gwerthu, ei diwygio neu atal staff neu gwsmeriaid rhag cael mynediad iddi?
- Pa mor niweidiol fyddai colli’r data hyn?
- Beth fyddai’r effaith ar eich gweithredoedd?
Amddiffyn Busnes
Mae nifer o chwaraewyr yn achosi risg:
- Seiber droseddwyr.
- Cystadleuwyr diwydiannol a gwasanaethau gwybodaeth tramor.
- Hacwyr.
- Gweithwyr.
Dylai atal data rhag cael eu colli fod yn rhan allweddol o strategaeth TG unrhyw fusnes. Gallai’r canlyniadau yn sgil data’n mynd i’r dwylo anghywir gynnwys torri cyfrinachedd, cosbau am beidio â chydymffurfio, ysbïo diwydiannol, colledion ariannol (i’ch busnes, i’ch gweithwyr ac i’ch cwsmeriaid) a thanseilio’ch enw da. Esgeulustod yw achos nifer o fethiannau seiber; er enghraifft methu ag amgryptio cof bach neu staff yn anwybyddu gweithdrefnau corfforaethol ynghylch e-byst allanol.